Cymdeithas Ddinesig Caerdydd
Ein Gweledigaeth ar gyfer Caerdydd
Cymdeithas Ddinesig Caerdydd
Mae Cymdeithas Ddinesig Caerdydd yn ymgyrchu dros warchod a gwella ein mannau gwyrddion trefol a’n treftadaeth adeiladau, ynghyd â brwydro yn erbyn datblygiadau anaddas sy’n andwyol i brofiadau bywyd dinesig.
Cred y Gymdeithas bod angen i ni wneud mwy na gwarchod yr hyn sydd yma yn barod er mwyn medru creu dinas ffyniannus sy’n addas ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain – dylem fod yn rym cadarnhaol dros welliant.
‘Dyn ni’n gweithio’n ddiwyd i wneud Caerdydd yn ddinas fwy cynaliadwy, tecach a chyfeillgar i bobl trwy lobïo Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru ar faterion megis -
cynllunio
tai fforddiadwy
gwrthdroi colled bioamrywiaeth
newid hinsawdd
gwarchod Adeiladau Treftadaeth
buddiannau cymunedol, yn cynnwys mannau gwyrddion ac isadeiledd gwyrdd/glas
trafnidiaeth ac awyr iach
Tan ategir hwn gan ymroddiad at gyfiawnder cymdeithasol a’r dyhead i ennill partneriaeth gywir rhwng y cyngor a’i dinasyddion.
Yn ddiweddar, ‘dyn ni wedi bod yn weithgar mewn mwy na 35 o ymgyrchoedd.
‘Dyn ni wastad yn hapus i helpu cymunedau sy’n wynebu grym datblygwyr, ac mae gennym ganllaw cynllunio i roi cymorth iddynt gyda hyn.
‘Dyn ni wedi crynhoi’r weledigaeth hon yng nghyd-destun etholiad lleol 2022. Daw’r themáu o’n gwaith a’n hymgyrchoedd a’r materion daw i’n sylw trwy ddinasyddion Caerdydd.
Pan frwydrwn, ni lwyddwn bob tro, ond yng ngeiriau anfarwol Bob Crow:
“Os ymladdwch, wnewch chi ddim ennill bob tro, ond os nad ymladdwch, fe gollwch bob tro.”
Gweledigaeth ar gyfer Caerdydd
Cred Cymdeithas Ddinesig Caerdydd bod yn rhaid i ddinas gwbl fodern ac sy’n barod am sialensiau’r dyfodol flaenoriaethu anghenion ei dinasyddion a’r blaned , gan ymarfer gwerthoedd megis cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb, gosod cymunedau yng nghanol penderfyniadau, tra hefyd yn mynd i’r afael â newid hinsawdd a cholled bioamrywiaeth.
Yn ein barn ni, mae arweinyddiaeth ddinesig Caerdydd wedi caniatau datblygu sy’n aml o ddyluniad gwael, yn methu cydblethu â chymdogaethau cyfagos, ac yn brin o fannau gwyrddion cyhoeddus digonol addas. Datblygiadau sy’n ddiffygiol fel mannau preswyl, heb fod yn gymdeithasol, yn gynaliadwy nac yn addasadwy. Wrth iddi fynd ar drywydd tyfiant, mae’r ddinas wedi dinistrio llawer o’i hasedau naturiol a hanesyddol, ac wedi methu dileu anghydraddoldeb ac amddifadedd. Mae profiadau adeg COVID wedi amlygu gwahanol agweddau o anghydraddoldeb o fewn ein dinas, yn cynnwys anghydraddoldeb hiliol.
Dyhead Cymdeithas Ddinesig Caerdydd ar gyfer y ddinas ydy bod:
y system cynllunio yn gweithio ar gyfer dinasyddion yn lle datblygwyr
newid hinsawdd a cholled bioamrywiaeth yn cael eu cymryd o ddifri’ ac yn felly’n cael ymateb ymarferol addas
cysyniad ‘y ddinas 15 munud’ yn cael ei mabwysiadu a’i defnyddio i lunio tyfiant y ddinas
tai fforddiadwy a swyddi addas ar gael i bawb
dinasyddion yn cael eu hannog o ddifri’ i gymryd rhan mewn penderfyniadau am ein dinas
yr ymgais am gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol wrth wraidd penderfynu a gweithredu
Mae prosiectau wedi eu seilio ar egwyddorion tebyg yn cael eu gweithredu yn San Fransisco, Bogota, Copenhagen, Llundain, Calgary a Bryste.
Does dim rheswm pam na all Caerdydd, prifddinas Cymru, ddilyn eu hesiampl.
Mae creu dinas pobl-ganolog, cynaliadwy, yn gofyn am newid radical. Ond rhaid i hwn ddigwydd i’n galluogi ni i greu dyfodol y medrwn ac yr hoffem fyw ynddo.
Cynllunio
Ein barn ni yw bod gan Gyngor Caerdydd agwedd adweithiol i gynllunio, yn hytrach na gosod yr agenda a darparu’r arweinyddiaeth a’r arweiniad sydd eu hangen. Canlyniad hwn yw llawer o benderfyniadau gwael cynllunio – ee dinistrio hoff adeiladau, adeiladu blociau tŵr, gorddarpariaeth o adeiladu llety at ddefnydd myfyrwyr, datblygiadau all-drefol sy’n ddiffygiol o ran cysylltiadau, ac ati.
‘Dyn ni’n deall bod Cyngor Caerdydd wedi ei gwanhau gan galedi economaidd. Ond i wrthsefyll hwn, dylai’r cyngor weithredu’n fwy craff.
Mae’n rhaid i’r Cyngor rhoi sylw i’r canlynol –
cofrestru gyda’r Siarter Creu Lleoedd sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Esiampl dda o ymarfer Creu Lleoedd ydy Pafiliwn Grange - http:// dcfw.org/charter-anniversary-blog-post-benham-architects-discuss-placemaking-and-the-grange-pavillion/
newid meddylfryd cynllunio o ymgynghori i gynhwysiant ac wedyn cyd-greu, gan gynnwys pobl mewn cynllunio dyluniadau. Mae angen i gymunedau cael eu cynnwys o’r dechrau’n deg yn y broses o lunio cynnigion , yn hytrach na chael cynllun sydd ar fin ei gytuno wedi ei rhoi iddynt, pan na fydd ystyriaeth o newidiadau o bwys yn bosib.
adnabod bod proses effeithiol o greu lleoedd yn deillio i fyny o’r preswylwyr yn ogystal ag i lawr o’r datblygwyr.
sicrhau bod y ddinas yn blentyn-gyfeillgar (https://childfriendlycities.org/) a hefyd yn gweithio ar gyfer pobl hŷn.
trefnu Cynulliadau Dinasyddion i ystyried Cynlluniau Datblygu Strategol (rhanbarthol) a Lleol.
mynnu bod adeilad newydd yn debygol o gael hir oes. Bydd yr hyd yn dibynnu ar y math o ddatblygiad.
gwella hygyrchedd gweladwy cynnar ar gyfer cynnigion datblygu o bwys a chaniatau mwy o amser i breswylwyr gael ymateb.
• cynyddu tryloywder ym maes ceisiadau cynllunio, gan godi’r llen ar ‘hyder masnachol’.
rhoi mwy o bwer i gynghorau cymunedol yn y broses cynllunio, a chefnogi creu cyngor cymunedol ym mhob etholaeth
terfynu’r arfer ble gall datblygwyr leihau maint cyllid s.106 mae’n cyfrannu, ar ôl gwneud cais cynllunio, ond cyn i ganiatad cynllunio gael ei roi, ar sail annichonoldeb ariannol.
darparu diffyniad clir o ‘cartrefi fforddiadwy’ a gosod isafswm o’r gyfran y dylid ei sicrhau, gan gynnwys cartrefi ar gyfer teuluoedd mawr a phobl gydag anableddau. Rhaid mynnu bod datblygwyr yn cadw at y gofynion hyn.
ethol cadeiryddion pwyllgorau cynllunio lleol yn uniongyrchol er mwyn cynyddu eu hannibyniaeth oddi wrth y blaid sy’n llywodraethu ac felly gwella atebolrwydd i bleidleiswyr (newid y byddai angen deddfwriaeth ar ei gyfer gan Lywodraeth Cymru).
rhoi’r hawl i breswylwyr i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio (byddai angen i Lywodraeth Cymru greu deddfwriaeth i ganiatau hyn).
Yr Amgylchedd Adeiledig
Dylunio gall cenedlaethau’r dyfodol fod yn falch ohono
Mae’n glir mai ychydig o adeiladau diweddar Caerdydd – ar wahan i ambell eithriad nodedig – fydd yn goroesi traul amser – ee blociau tŵr llety myfyrwyr. Mae datblygiadau o fewn y ddinas yn fratiog a methu cydlynu. Dinas Fictoraidd ac Edwardaidd yw hon yn bennaf, ond ychydig iawn bu’r pwyslais ar gynnal y dreftadaeth a’r cyd-destun hwnnw. Mae nifer o’r adeiladau newydd gyda bywyd arfaethedig llawer byrrach (weithiau dim ond 50 mlynedd) na’u rhagflaenyddion. Mae ansawdd cartrefi newydd yn gallu bod yn wael ac angen ei wella, ee gwella effeithlonrwydd egni. Ffactor hollbwysig mewn economi ffynniannus yw creu dinas y mae pobl eisiau byw ynddi ac sy’n cyfrannu at iechyd a llesiant dinasyddion.
Mae dirywiad yng Nghaerdydd mewn niferoedd ymweliadau â chanol y ddinas, yn nhermau man-werthu a gweithwyr swyddfa. Mae’r Cyngor wedi methu â deall sgil effeithiau’r pandemig, a heb wneud ymdrech cyfatebol i newid ei gynlluniau ar gyfer y brifddinas.
Mae ymarferwyr pensaerniol megis Gehl yn arweinyddion byd eang ym maes cynllunio dinesig sy’n bobl gyfeillgar. Arwyddair Gehl ydy: Bywyd yn gyntaf, wedyn mannau agored, wedyn adeiladau. Mae angen gweithredu’r egwyddorion hyn wrth gynllunio adeiladau a mannau dinesig Caerdydd.
Golyga newid hinsawdd bod yn rhaid cynllunio adeiladau newydd i liniaru effeithiau tymhereddau uchel a newidiadau sydyn mewn tymheredd.
Dylai cartrefi newydd sbon fod o ansawdd uchel, yn rhan o’r gymdogaeth 15 munud, ac â digon o le ar gyfer gweithio o’r cartref.
Mae angen i Gaerdydd
gydnabod treftadaeth Fictoraidd ac Edwardaidd y ddinas a sicrhau ystyriaeth lawn i hyn wrth wneud penderfyniadau cynllunio
fynnu’r arferion gorau mewn datblygiadau – ee cynllunio (ee https://llyw.cymru/gofynion-ansawdd-datblygu-ar-gyfer-cymdeithasau-tai-ac-awdurdodau-lleol-2021), effeithlonrwydd ynni, cladin, y gallu i wrthsefyll tymhereddau uwch sy’n deillio o newid hinsawdd, llifogydd ac ati.
ddefnyddio cysyniad y ddinas 15 munud i lunio datblygiad y ddinas – ble mae holl anghenion bywyd o fewn cyrraedd hawdd, megis swyddi, siopau, mannau gwyrddion, iechyd, addysg, hamdden, trafnidiaeth gyhoeddus ac ati
gydnabod bod parthau o’r brifddinas megis y canol a’r Bae yn fwy na lleoedd mae pobl yn gweithio neu’n ymweld â nhw am ddiwrnod yn unig, am eu bod hefyd yn drigfannau . Y mae egwyddorion y ddinas 15 munud yn berthnasol yno hefyd.
Darparu tai
Mae yna brinder o gartrefi yng Nghaerdydd, a bydd hwnnw’n parhau os na chaiff mwy eu hadeiladu neu’u creu hyd yn oed os bydd y twf yn y boblogaeth yn arafu. Ceir rhai o’r tai gwaethaf yng Nghymru yng Nghaerdydd, ond mae’n parhau i fod ymysg y mannau drytaf i fyw, gyda digartrefedd yn broblem sy’n para. Mae ’na brinder o dai fforddiadwy. Mae angen i fwy o dai cymdeithasol gael eu hadeiladu yn y lleoliadau iawn. Mae dros 7000 eiddo gwag / wedi’u tanddefnyddio yng Nghaerdydd ac er bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i fynd i’r afael â hwn, mae’r niferoedd yn parhau i godi.
‘Dyn ni angen mwy o gartrefi. Dyma rhai o’r ffyrdd gall Cyngor Caerdydd ddarparu’r rhain heb adeiladu mwy:
blaenoriaethu mesurau i ddefnyddio tai gweigion ac eiddo arall sy’n wag / wedi’u tanddefnyddio fel cartrefi
cynnal a chadw ac ôl-osod er mwyn estyn bywyd defnyddiol cartrefi presennol
trosi adeiladau masnachol segur (neu’r gofod tu fewn iddynt) yn gartrefi
gweithredu mesurau i atal eiddo rhag cael eu defnyddio fel ail gartrefi neu ‘pad dinesig’ – ee premiwm treth cyngor
lobïo Llywodraeth Cymru i fynnu ceisiadau cynllunio newid defnydd ar gyfer cartrefi a defnyddir mwyaf fel AirBnB neu rhywbeth tebyg
annog sefydlu ymddiriedaethau tir cymunedol (sefydlir a rhedir ymddiriedaethau tir cymunedol gan bobl gyffredin i ddatblygu a rheoli cartrefi yn ogystal ag asedau eraill. Mae YTCau yn gweithredu fel stiwardiaid hir dymor tai, yn sicrhau eu bod yn parhau o ddifrif yn fforddiadwy a hynny yn seiliedig ar wir gyflogau’r ardal, nid yn y presennol yn unig ond hefyd ar gyfer deiliaid y dyfodol.
Gweler hefyd yr adran ar gynllunio ar gyfer materion ee darparu cartrefi newydd fforddiadwy. Mewn dinas sy’n tyfu, bydd wastad angen tipyn o adeiladu newydd ar feysydd gwyrddion, ond oherwydd llai o dyfiant yn y boblogaeth, dylai fod llai o alw am hyn.
Dylai Cyngor Caerdydd:
ystyried tir glas (mannau gwyrddion) ar gyfer datblygiad dim ond pan nad oes opsiynnau eraill. ‘Dyn ni wedi cyrraedd y pwynt pan na fedrwn fforddio colli mwy o dir glas.
blaenoriaethu tir llwyd, ond dim ond pan:
Mae bioamrywiaeth y safle tir llwyd neu’i werth amwynder yn isel
Gellir ddarparu safle tir llwyd o ddefnyddiau eraill, megis parcio all-drefol
Mae cynllun rhanbarthol i ddod â tir llwyd ychwanegol i ymgeisio i fod yn safle adeiladu tai
Mae eisoes (neu mi fydd) cysylltedd ac isadeiledd lleol gwell ar gyfer safleoedd ymgeisiol sy’n dir llwyd
defnyddio’r pwerau rheoleiddio, trethi, a phryniant gorfodol sydd ganddo eisoes i fynd ar y trywydd hwn, gan lobïo Llywodraeth Cymru ar gyfer newidiadau deddfwriaethol ble mae angen.
Adeiladau Treftadaeth
Ychydig iawn o ddiddordeb a ddangosir gan y cyngor mewn gwarchod treftadaeth y ddinas. Trwy’r blynyddoedd mae llawer o adeiladau nodedig wedi cael eu dinistrio. Mae eraill ond yn gragen o’u hunaniaeth flaenorol. Bu Guildford Crescent unwaith yn hyb bywiog yn llawn o fariau annibynnol a busnesau eraill, nawr façade yn unig ydyw yn aros i gael ei gysgodi gan dŵr floc datblygwr. Mae hyd yn oed y Gyfnewidfa Glo rhestredig Gradd ll Seren , adeilad o bwysigrwydd cenedlaethol, wedi cael ei adael yn fwriadol i ddirywio i gyflwr truenus.
Mae angen newid polisi radical i arbed Caerdydd rhag dod yn dirwedd ddigymeriad undonog, ‘blandscape’.
Dylai Cyngor Caerdydd:
weithio gyda chymunedau i roi cymorth iddynt achub tirnodau sy’n ychwanegu diddordeb nodedig i’r gymdogaeth
gydweithio gyda CHADW – dylent fod yn fwy parod i ddarparu gwarchodaeth ar gyfer adeiladau sy’n bwysig i gymunedau
ddefnyddio’r pwerau rheoliadol sydd ganddo, megis rhestri lleol a chyfyngu ar hawliau datblygu a ganiateir er mwyn gwneud dymchwel adeiladau sy’n annwyl yn llawer anoddach.
Trafnidiaeth
Nodweddir system trafnidiaeth Caerdydd gan orddefnydd o’r car preifat a dim digon o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol . Mae hyn yn achosi tagfeydd, llygredd aer, ac yn ychwanegu at newid hinsawdd.
Dylai Cyngor Caerdydd:
flaenoriaethu cerddwyr, beicwyr a thrafnidiaeth gyhoeddus dros ddefnydd ceir preifat
atal datblygiadau sy’n cynyddu dibyniaeth ar a defnyddio ceir, a hyrwyddo’r rhai sydd â darpariaeth dda o wasanaethau lleol a thrafnidiaeth gyhoeddus / llesol
beidio â pharhau i adeiladu llwybrau beicio trwy fannau gwyrddion a pharciau. Dylai llwybrau beicio cael eu hadeiladu ar ffyrdd
arbrofi gyda theithiau bysiau am ddim ar benwythnosau, yn ystod gwyliau ysgol ac ati
rhoi’r flaenoriaeth i gerddwyr a beicwyr ger goleuadau traffig
cynyddu costau parcio a phrisiau trwyddedau parcio preswylwyr
Yr Amgylchedd Naturiol
Bioamrywiaeth
Yn ogystal â’r argyfwng hinsawdd, ‘dyn ni hefyd yn wynebu un yng nghyd-destun bioamrywiaeth oherwydd colledion cynefinoedd, a’r defnydd o lyswenwyn a phlaleiddiaid. Yn ôl dogfen y Cyngor ‘Un Blaned Caerdydd’ mae 165 rhywogaeth yn gwynebu difodiant yng Nghaerdydd. Mae Cymru, fel y D.U., yn adnabyddus fel un o’r gwledydd sydd â’r bywyd naturiol mwyaf amddifadus yn y byd .
Gall pobl ddim goroesi heb natur: mae’n rhoi aer i ni anadlu a bwyd i fwyta. Natur yw ein system cynnal bywyd, a ‘dyn ni mewn perygl o’i cholli os na chymrwn gamau yn ddi-oed.
Mae angen i’r Cyngor:
warchod cynefinoedd presennol, yn cynnwys eu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) , a’u Safleoedd o Bwysigrwydd ar gyfer Gwarchod Natur (SINC). Golyga hyn monitro’r safleoedd a’u rheoli er mwyn diogelu eu bioamrywiaeth
fynnu bod pob datblygiad yn ad-dalu’n llawn am unrhyw golled bioamrywiaeth, fel sy’n ofynnol gan Bolisi Cynllunio Cymru
gryfhau’n sylweddol ei Gyfarwyddyd Cynllunio Ategol Isadeiledd Gwyrdd, yn enwedig y Nodiadau Cyfarwyddyd Technegol ar Goed, Bioamrywiaeth a Mannau Gwyrddion
sefydlu brithwaith o fannau natur-gyfeillgar, gyda choridorau gwasgariad naturiol. ‘Dyn ni angen cloddiau, pyllau, dolydd blodau gwylltion, glaswelltir heb eu gwella, isdyfiant, dryslwyn danadl a mieri mewn parciau a mannau cyhoeddus agored eraill
godi ymwybyddiaeth gyhoeddus o bwysigrwydd bioamrywiaeth – ee sut gall pobl gwneud gwelliannau yn eu gerddi / cymdogaethau er fudd bioamrywiaeth
ddatblygu dealltwriaeth well o ystyr ‘cynefin’ – ee mae safleoedd tir llwyd, sy’n aml yn cael eu diystyru fel tir diffaith, yn gallu bod yn gyfoethog iawn mewn bioamrywiaeth
beidio â defnyddio llyswenwyn a phlaladdwyr ar dir a rheolir gan y Cyngor
Mannau Gwyrddion Cyhoeddus
Dywed Sefydliad Iechyd y Byd:
Mae mannau dinesig gwyrddion, fel parciau, meysydd chwarae, a gwyrddni preswylfeydd, yn gallu hybu iechyd meddyliol a chorfforol, a lleihau morbidrwydd a marwoldeb preswylwyr dinesig trwy ddarparu ymlaciad seicolegol a lleddfu straen, ysgogi ymlyniad cymdeithasol, cefnogi gweithgaredd corfforol, a lleihau amlygiad i lygreddau aer, swn a gwres eithafol.
Er bod Caerdydd yn aml yn cael ei disgrifio fel ‘dinas werdd’, myth camarweiniol ydy hyn. Dim ond 8 y cant o dir gwyrdd sydd ar gael i’r cyhoedd yng Nghaerdydd. Cymharwch hwn gyda:
Llundain 18%
Caeredin 17%
Birmingham 15.58%
Nottingham 15.34%
Glasgow 13.49%
Caerdydd 8%
Mae’r buddion i iechyd cyhoeddus a llesiant a roddir gan argaeledd mannau gwyrddion wedi’u dogfennu yn dda. Dengys astudiaethau cynhwysfawr bod y sawl sydd â mynediad i fannau gwyrddion yn llai tebyg o ddioddef pryder, straen ac iselder.
Rhaid i Gyngor Caerdydd sicrhau bod:
creu mannau gwyrddion amlbwrpas cyhoeddus yn cael blaenoriaeth addas o fewn cynllunio (mae rhai dinasoedd, fel Stoke-on-Trent yn bwriadu trawsnewid rhannau o’u canolau yn barciau, er enghraifft)
syniad ‘parciau poced’ yn treiglo ar draws y ddinas
cyn lleied ag sy’n bosib o ardaloedd eang o goncrit a glaswellt wedi cropio’n fyr
mannau agored segur y gellir eu trawsnewid i fod yn fannau agored gwyrddion cyhoeddus yn cael eu clustnodi
plannu coed (cynllun Coed Caerdydd) yn cyflymu ac yn cael ei weithredu’n deg – er enghraifft mae de y ddinas gydag ychydig iawn o goed stryd ac ardaloedd fel Sblot yn dioddef o ansawdd aer gwael
Newid Hinsawdd
Mae Caerdydd mewn perygl dybryd o lifogydd wrth i’r hinsawdd dwymo. Byddai cyfuniad o lanw gwanwyn uchel a fflachlif yn nhalgylch afonydd y ddinas yn debyg o arwain at lifogydd difrifol o fewn y ddinas, oherwydd y posibilrwydd na fyddai’r morglawdd yn gallu gollwng digon o ddwr i atal hyn.
Mae’r ddinas hefyd yn debyg o ddioddef o dymhereddau haf uwch.
Mae’n hanfodol bod y cyngor:
yn gweithio gydag awdurdodau lleol arall a Chyfoeth Naturiol Cymru i addasu dalgylchoedd afonydd, fel bod afonydd a nentydd yn gallu troelli a gwastatiroedd gorlifiad yn gallu cael eu datblygu ble bynnag sy’n bosib. Mae angen plannu coed yn nhalgylchoedd afonydd hefyd
yn diogelu ardaloedd fel dolydd sy’n gallu amsugno llifddwr heb i eiddo gael eu difrodi
yn sicrhau bod datblygiadau tai newydd ddim yn cael eu lleoli mewn ardaloedd sy’n debyg o ddioddef llifogydd
yn cydnabod allyriadau carbon y broses o godi a dymchwel adeiladau, yn ogystal â defnydd yr adeiladau hynny, ac yn gweithio i isafu’r ddau fath o allyriad
yn sicrhau bod datblygiadau newydd yn cael eu cynllunio i ddelio gyda thymhereddau uwch yr haf
yn sicrhau bod coed yn cael eu plannu mewn strydoedd dinesig i ddarparu cysgod ac oeri
yn mynnu mai dim ond arwynebeddau athraidd a defnyddir mewn datblygiadau, i leihau cyfaint dŵr ffo cyflym
yn dryloyw am effaith carbon holl bolisiau a phenderfyniadau gwario’r Cyngor
Atygyweirio dull Caerdydd o wneud busnes
Er mwyn cyflawni’r prif newidiadau sy’n angenrheidiol i ddiogelu dyfodol y ddinas, credwn fod angen i’r cyngor archwilio p’un ai dylai newid y ffordd mae’n gweithredu.
Mae ‘model y cabinet’ (ar waith ar hyn o bryd) o redeg y cyngor yn golygu bod y rhan fwyaf o’r penderfyniadau yn cael eu gwneud gan arweinydd y cyngor a’r cabinet – llond llaw o gynghorwyr yn unig sy’n dal maint anghymesur o rym. Er mwyn dod â chydbwysedd i hyn, mae angen mwy o dryloywder, mwy o ymwneud â dinasyddion, a mwy o graffu ar broses penderfyniadau’r cabinet.
Gellir cryfhau hefyd ran y pwyllgorau craffu o fewn y cyngor. Er natur drawsbleidiol y pwyllgorau hyn, mae angen gwella eu gallu i ofyn cwestiynnau anodd, ac mae angen mynd i’r afael â gallu y cabinet i anwybyddu argymhellion y pwyllgorau.
Y mae’r amser a ganiateir ar gyfer craffu pynciau allweddol sy’n wynebu’r ddinas yn fater o bryder dwys. Er enghraifft, dim ond 45 munud a ganiatawyd ar gyfer materion a godwyd gan rhan ddeiliaid parthed y Cynllun Datblybu Lleol Newydd – dogfen bydd yn llywio trywydd Caerdydd, a bywyd y sawl sy’n byw yma, i’r dyfodol rhagweladwy.
Mae angen diwygio’r ffordd mae’r system cynllunio a’r pwyllgor cynllunio yn cael eu rhedeg. Mae’r system gyfredol yn annemocrataidd a heb dryloywder, yn eithrio asedau dynol y ddinas – ei phreswylwyr – rhag chwarae rhan ystyrlon yn yr hyn sy’n digwydd i’w dinas, gyda chanlyniadau negyddol yn dilyn ar ansawdd bywyd dinasyddion.
Dylai Cyngor Caerdydd
sefydlu grwp gorchwyl a gorffen i edrych ar arfer gorau atebolrwydd, ymwneud â’r cyhoedd, a chraffu ar lywodraethu’r cyngor
gynnwys y pwyllgorau craffu yn yr adolygiad hwn – ee sut dewisir y cadeiryddion, a ph’un ai dylai argymhellion o’r pwyllgorau craffu bod yn orfodol ar y cyngor
gynnwys adolygiad o’r pwyllgor cynllunio – ee sut etholir y cadeirydd
gynyddu tryloywder trwy ddatgelu gwybodaeth yn gyson y gellir ei roi yn nwylo’r cyhoedd heb gyfaddawdi gyfrinachedd neu warchodaeth data
ystyried oblygiadau amgylcheddol a threftadaeth holl gynnigion y cabinet a’r cyngor
weithio’n agos gyda dinasyddion ar lefel sydd o leiaf yn gyfartal â’r lefel gyda datblygwyr
DIWEDD
Creewyd y weledigaeth hon yng nghyd-destun etholiad lleol 2022. Daw’r themáu o’n gwaith a’n hymgyrchoedd a’r materion daw i’n sylw trwy ddinasyddion Caerdydd.
Os hoffech rhagor o wybodaeth, ymunwch a’n rhestr llythyru isod.